Dylunio
Gall
Tŷ Newydd eich cynorthwyo gyda dylunio, cynllunio ac ail
drefnu'r gofod yn eich cartrefi i gael y defnydd gorau ohono -
os yw hynny'n gartref newydd, estyniad neu addasu ac ad-drefnu.
Gallem ddarparu gwasanaeth o ymgynghori mesul awr er mwyn eich
cynorthwyo
i wireddu eich syniadau i greu cynlluniau llawn
manwl.
Gallem eich cynghori ar polisiau cynllunio, gofynion
rheolaeth adeiladu, cytundebau wal rhannol a materion strwythurol.
Gallem lunio rhestr waith manwl er mwyn cael amcangyfrifon
cywir a'ch cyngori ar gyllideb realistig ar gyfer y prosiect.
Pan fydd cynllun wedi ei gytuno gallem eich cynorthwyo i'w wireddu gyda ein Gwasanaeth Rheoli Prosiectau.